Hoffai Hyb ACE Cymru eich gwahodd yn gynnes i’n Digwyddiad Ymgysylltu â Phartneriaid, a gynhelir yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd, rhwng 09:30 a 16:30 ar ddydd Iau 17 Tachwedd 2022 gyda lluniaeth yn cael ei weini o 09:00.
Ar y diwrnod, byddwn ni’n arddangos rhai o’n cyflawniadau allweddol a’n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Mae’n gyfle i ddod i gwrdd â’r tîm a’n helpu ni i lansio ein gwefan newydd.
Bydd y digwyddiad hefyd yn gyfle i lansio’r Hyfforddiant Sefydliadau sy’n Ystyriol o Drawma a ddatblygwyd gan Barnardo’s Cymru i gefnogi’r Fframwaith Ymarfer Trawma Cenedlaethol.
Ymhlith y siaradwyr gwadd ar y diwrnod mae Susan Cousins a Barry Diamond ar wneud synnwyr o ficro-ymosodiadau, a Gulwali Passarlay yn trafod ei daith ysbrydoledig o obaith mewn adfyd fel plentyn yn Affganistan ac fel ffoadur yn y DU.
Gallwch fynychu gweithdai a ddarperir gan ein partneriaid gan gynnwys Cymorth i Fenywod Cymru, Platfform a Cymorth Cymru ac Uned Atal Trais Cymru.
Ymunwch â ni i ddathlu, wrth i ni barhau â’n taith tuag at Gymru sy’n Ystyriol o Drawma.
Darperir cyfieithu ar y pryd; rydym yn croesawu cyfraniadau yn y Gymraeg.
GWEITHDAI
Bydd pedwar gweithdy ar y diwrnod, gofynnwn i chi ddewis dau i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i’w mynychu.
Byddant yn cael eu cynnig ar sail y cyntaf i’r felin, gallwch ddod o hyd iddynt yn y cwestiynau safonol wrth gofrestru ar gyfer y digwyddiad.
Bydd cadarnhad o weithdai yn y pecyn cynrychiolwyr ar y diwrnod.